Mae Maethu Cymru CNPT yn cefnogi aelodau teulu i ofalu am blant a phobl ifanc.
Rydym wedi bod yn ofalwyr maeth i’n dau wŷr ers 2 flynedd. Roedd y broses asesu’n gyflym iawn… a’r broses gyfan yn syml. Roedd ein haseswr yn sensitif iawn wrth drafod fy mhlentyndod a’m cefndir teuluol.
“Doeddwn i ddim hyd yn oed yn teimlo fel ein bod ni’n cael ein hasesu, roedd yn teimlo mwy fel sgwrs anffurfiol a oedd yn help mawr i ni.”
Mae maethu o fewn y teulu wedi bod yn wych. Mae wedi teimlo mor naturiol, mae fel petai ein hwyrion wedi bod yma erioed. Dydy maethu ddim yn effeithio arnom o gwbl; hyd yn oed gyda’r holl ymweliadau a galwadau ffôn, mae’n teimlo’n anffurfiol iawn.
Gan taw ein hwyrion ydyn nhw, roedden nhw eisoes yn rhan fawr o’n bywydau ac roedd y plant yn byw gyda ni cyn y gweithdrefnau llys – roedd tîm Maethu Cymru yn help mawr i ni, ac wedi sicrhau bod gennym welyau, cyfarpar diogelwch a phopeth yr oedd ei angen arnom ar gyfer y plant.
Mae cyfnod y Nadolig yn brysur iawn, ac mae cael dau blentyn bach yn y teulu hefyd yn golygu ein bod ni’n brysurach nag erioed. Roedd y tŷ wedi’i addurno’n llawn gan fod gennym fab hŷn. Mae’n ychwanegu mwy o hwyl yr ŵyl – rydym yn dwlu ar gymryd rhan yn y coblyn ar y silff ac mae gennym lawer o addurniadau i’r plant eu mwynhau. Mae’r cyfan iddyn nhw a’n mab ein hunain.
Nadolig
Roedd ein cinio Nadolig cyntaf fel teulu mwy yn brysur, yn ddoniol ac yn wych. Braf oedd gweld pa mor rhwydd y daethon nhw’n rhan o’r teulu. Rwy’n cofio’r tro cyntaf iddyn nhw flasu sbrowts, a defnyddiom ni sawl bocs o glecars Nadolig – roedd y plant yn dwlu arnyn nhw! Y peth pwysicaf i ni oedd peidio â rhoi unrhyw bwysau arnyn nhw i eistedd wrth y bwrdd amser cinio – roedd ganddyn nhw hawl i wneud beth bynnag roedden nhw’n dymuno’i wneud, roedd yn ddiwrnod iddyn nhw fwynhau eu teganau a chael hwyl. Cawsom ddiwrnod gwych fel teulu.
Mae pethau cadarnhaol yn deillio o faethu, a’r peth pwysicaf yw’r gefnogaeth.
Nid ar gyfer y plant yn unig, ond ar gyfer ein teulu cyfan. Roeddwn i’n fwy hyderus y byddai’r plant yn aros gyda ni a dyna’r sicrwydd roedd ei angen arnom. Rydym wedi mwynhau pob eiliad. Mae’r tîm maethu’n rhan o’r teulu erbyn hyn.
Gan ein bod ni’n ofalwyr maeth, mae’r plant wedi gallu aros yn y teulu, a dyna‘r hyn roeddem bob amser wedi’i eisiau ar eu cyfer. Roedd y plentyn ieuengaf yn fabi, felly doedd e’ ddim yn gwybod yn wahanol. Roedd yr hynaf yn swil iawn, doedd e’ ddim yn rhyngweithio ag unrhyw un nac yn rhoi cynnig ar bethau newydd a doedd dim hyder o gwbl ganddo. Treuliodd yr hynaf lawer o amser yn ceisio meithrin perthynas â fi, doedd e’ ddim yn ymddiried mewn menywod rhyw lawer. Ers dod i fyw gyda ni, mae hyn wedi newid yn llwyr ac mae bellach yn fachgen bach hyderus.
Mae pobl yn aml yn meddwl bod yn rhaid i chi aberthu llawer i fod yn ofalwr maeth ond mae’n hollol werth chweil – rydym yn cael cymaint o foddhad o’i wneud.