pam maethu gyda ni?

pam dewis ni?

pam ein dewis ni?

Dim eich asiantaeth faethu gyffredin yw Maeth Cymru Castell-nedd Port Talbot, ond yn hytrach, rhan o wasanaethau maethu nid-er-elw’r  Awdurdodau Lleol, ledled Cymru.

Mae bod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot yn golygu eich bod yn dewis gweithio gyda thîm sy’n rhoi pwrpas cyn gwneud elw.

Ein nod yw cadw’r holl blant yn eu hardal leol pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw. Rydyn ni’n gweithio gyda’n holl ofalwyr maeth i greu dyfodol gwell i bob plentyn lleol. Dyna beth rydyn ni’n ei wneud.

teulu yn eistedd ogwmpas bwrdd

ein cenhadaeth

Mae yna blant yn ein cymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd ein hangen ni, ac sydd eich angen chithau hefyd. Fel darparwr gofal maeth ymroddedig, mae ein tîm yn gwneud yn siŵr eich bod yn clywed stori pob plentyn ac yn gweithio i’w lleoli mewn amgylchedd cariadus a sefydlog.

O fabis, plant bach a phobl ifanc yn eu harddegau i frodyr a chwiorydd a rhieni ifanc, maen nhw i gyd yn haeddu dyfodol gwell gyda gofalwyr maeth ymroddedig.

 

 

dyn ifanc a dyn yn sefyll a gwenu

ein cefnogaeth

Os byddwch chi’n dewis dod yn ofalwr maeth gyda’n tîm, ni fydd y rhwydwaith cefnogi lleol cyflawn ar eich cyfer chi, yn eich cefnogi chi a’r plant yn ein gofal.

Os byddwch chi’n dewis cychwyn ar eich taith faethu gyda ni, byddwn ni wrth eich ymyl chi bob cam o’r ffordd. Rydyn ni’n darparu cefnogaeth bwrpasol, cyngor a’r holl hyfforddiant y bydd ei angen arnoch i fwynhau taith faethu lwyddiannus.

cefnogaeth a manteision

teulu yn cerdded ar draws y traeth

ein ffyrdd o weithio

Mae ein tîm yn Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot yn rhan o’ch cymuned leol, ac yn ymfalchïo’n benodol mewn creu cysylltiadau parhaol gyda phob un o’n teuluoedd maeth yn yr ardal.

Rydyn ni’n credu mewn cefnogi twf a datblygiad gyda phob cam ar y daith faethu – a hynny ar gyfer gofalwyr a phlant. Rydyn ni’n cydnabod bod ein gofalwyr maeth yn unigolion ac rydyn ni’n gweithio’n galed i’ch helpu chi i fod yn chi eich hun drwy gydol y broses.

Dyn ifanc yn siarad i plentyn ifanc

eich dewis

Os byddwch chi’n dewis maethu gyda Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot, byddwch chi’n dewis gweithio gyda phobl angerddol sydd wir yn ystyriol. Gofalwyr ymroddedig sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n byw ac yn gweithio yn eich ardal, sy’n deall realiti bywyd bob dydd yn y gymuned a’r cyffiniau.