stori

Maethu gyda’n gilydd trwy ddod yn ofalwr maeth gyda fy mhartner

Maethu LGBTQ+

Mae Kate wedi bod yn ofalwr maeth ers 13 mlynedd ac mae Imogen wedi bod yn ofalwr maeth ers pum mlynedd.

Rydym yn ofalwyr tymor hir ac mae ein haelod ychwanegol presennol wedi bod gyda ni ers saith mlynedd eleni. Rydym wedi rhoi cynnig ar seibiant ac roeddem yn agored i’r tymor byr yn wreiddiol, ond wedi i ni ddod i adnabod y plant roedden ni’n mwynhau meithrin y berthynas a dod i’w hadnabod. Mae’r plentyn cyntaf a leolwyd gyda ni’n 22 oed nawr ac mae’n dal i fod yn rhan fawr o’n teulu, mae’r ieuengaf yn ei arddegau nawr ac rydym wedi ei wylio’n tyfu, yn newid ac yn dod yn berson anhygoel.

Ymunodd â’n haelwyd wallgof ar ôl i ni sylweddoli ein bod am fod mewn perthynas tymor hir, ac roedd dod yn ofalwr maeth a’n cefnogi ni i gyd yn rhan fawr o hynny iddi.

Proses asesu gadarnhaol

Roedd y broses asesu yn gadarnhaol iawn i ni. Roedd yr hyfforddwr yn llawn gwybodaeth ac roedd wir yn dod â gwirionedd blynyddoedd cynnar ein plant yn fyw. Rwy dal yn ei chofio hi’n actio fel babi’n crio, a’r gwahanol ymatebion y byddai’n eu cael, a sut y byddai pob un yn effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd ac ymlyniad; arhosodd yr wybodaeth honno gyda mi hyd yn oed 13 mlynedd yn ddiweddarach. Pan hyfforddodd India, cawsom yr un hyfforddwr eto ac fe ddaeth â rhywbeth arall yn fyw iddi. Roedd y rhan honno’n bositif iawn i ni.

Roedd y cam gwaith papur yn hir a thrylwyr, sy’n ddealladwy gan fod y plant sy’n dod atom eisoes yn agored i niwed. Doedd hyn ddim yn broblem i ni ond roeddwn i’n ei chael hi’n anodd bod yn amyneddgar wrth aros i gael ein cymeradwyo.

Yr hyn a gawsom yn anodd

Mae’r anawsterau o fod yn ofalwr maeth yn cynnwys peidio â mynd adref ar ddiwedd y dydd a dianc rhag eich ymrwymiadau gwaith. Eich tŷ yw eich gweithle, ac ar ôl diwrnod o ofalu am blant y gall fod ganddynt broblemau cymhleth, gall teimlo fel nad ydych chi’n cael diffodd neu ddianc. Yn debyg iawn i fagu plant does dim dyddiau salwch neu wyliau, er bod mathau eraill o seibiant ar gael; nid yw mor syml â ffonio’r gwaith i ddweud eich bod yn sâl a chael ychydig oriau i chi’ch hun. Mae llawer o hyfforddiant a gwaith papur er mwyn eich cadw chi a’r plant yn ddiogel ac ar ôl diwrnod hir, mae’n gallu teimlo fel y peth olaf hoffech chi ei wneud.

Mae llawer o hyfforddiant ar gael ar-lein, yn bersonol ac yn y cartref drwy ddarllen a hyd yn oed drwy wylio rhaglenni teledu. Mae’n rhaid i chi fod yn agored i ddysgu a chroesawu newidiadau yn y byd, y cyfreithiau a’r gwahaniaethau rhwng y cenedlaethau sy’n digwydd dros amser.

Roeddwn i’n 25 oed pan ddechreuais i faethu ac yn y 13 mlynedd diwethaf, dwi wedi gweld bod y ffordd mae plant yn gwneud pethau yn dylanwadu’n uniongyrchol ar yr hyfforddiant sydd ar gael i ni, yn enwedig o ran hunaniaeth rywiol, materion trawsrywiol a hyd yn oed y rhyfel yn Wcráin. Mae’n rhaid i hyfforddiant ac anghenion ein cymuned addasu’n gyflym.

Mae amrywiaeth eang o hyfforddiant ar gael; nid yw bob amser yn hawdd cael mynediad ato os oes gennych yrfa arall y tu allan i faethu ond mae rhywbeth ar gael bob wythnos.

Dwi’n meddwl bod eich teulu’n tyfu o gwmpas y profiad maethu, yn hytrach na bod maethu’n ffitio o gwmpas bywyd eich teulu. Rydych chi’n dod o hyd i allu ychwanegol, egni ychwanegol, yn dysgu pethau newydd, yn dechrau arferion newydd, yn addasu ac yn newid. Mae eich teulu’n ehangu wrth ychwanegu plant a’u teuluoedd, eu gweithwyr cymdeithasol a’u hathrawon etc., ond yn yr un modd gall leihau pan fydd pobl yn cymryd cam yn ôl. Dyw e’ bendant ddim yn addas i bawb ac mae’n gallu bod yn begynol iawn.   Rydyn ni’n cynnwys ein plant ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud fel y bydden ni gyda’n plentyn ein hunain; mae’n daith deuluol.

Bydden i’n dweud wrth unrhyw un sydd eisiau bod yn ofalwr maeth i beidio â’i wneud er mwyn ennill arian yn unig a pheidiwch â’i ystyried fel tasg hawdd. Does dim angen rhywun ar ein plant sydd eisiau cael canmoliaeth am fod yn berson da, neu rywun sy’n hoffi cael gwybod pa mor lwcus yw ein plant i’n cael ni. Mae angen i chi fod yn hyderus y gallwch chi eirioli dros anghenion eich plentyn wrth i chi gydbwyso’ch bywyd eich hun a’ch teulu, mae angen eich bod yn gallu gofyn am gymorth a pheidio â bod â chywilydd os bydd ei angen arnoch. Mae angen llawer o le yn eich cypyrddau ar gyfer byrbrydau, synnwyr digrifwch da a’r gallu i fod ychydig yn “wallgof”; rwy’n credu bod hynny bob amser yn helpu.

Cysylltwch cysylltu â ni

A allech ymuno â Kate a Imogen a mwy na 35 o aelwydydd LHDTQ+ sydd eisoes yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru? cariad heb ffiniau: taith kate a lisa fel gofalwyr maeth lhdtc+ – maethu cymru wrecsam (llyw.cymru)

maethu yng nghastell-nedd port talbot

Ni yw Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot, rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Ein nod yw creu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned. cysylltu â ni i ddarganfod mwy

Story Time

Stories From Our Carers

Bachgen ifanc yn siarad i teulu

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.