Cyn dod yn ofalwr maeth, treuliodd Lorraine flynyddoedd yn gofalu am eraill fel gwarchodwr plant a gwirfoddolwr gyda’r Samariaid. Roedd cefnogi pobl trwy gyfnodau anodd yn dod yn naturiol iddi, ac roedd hi wrth ei bodd gyda’r hyn roedd yn gwneud. Ond yna, dyma hi’n darganfod ffordd newydd o wneud gwahaniaeth fyddai’n newid bywydau, a chychwyn ar ei siwrnai i ddod yn ofalwyr maeth rhiant a phlentyn gyda’i gŵr, Paul.
Nawr, 13 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r cwpl o Gastell-nedd Port Talbot wedi cefnogi 20 o rieni gyda’u plant ifanc yn llwyddiannus. Drwy faethu rhiant a phlentyn, mae Lorraine a Paul yn darparu amgylchedd cartref sy’n ddiogel i rieni fedru bondio â’u plentyn a datblygu sgiliau sy’n hanfodol i fod yn rhiant.
Sut y gwnaeth Lorraine a Paul ddarganfod maethu rhiant a phlentyn
Nid oedd siwrnai Lorraine a Paul i faethu rhiant a phlentyn yn rhywbeth yr oeddent nhw wedi’i gynllunio. I gychwyn, fe gynigion nhw ofal maeth tymor byr a chroesawu rhiant a phlentyn a oedd yn ei chael hi’n anodd i’w cartref. Daeth yr hyn a ddechreuodd fel trefniant dros dro yn rhan o’u bywydau a, cyn hir, roedden nhw’n angerddol drosto.
Sylweddolodd Lorraine a Paul eu bod wedi dod o hyd i faes maethu lle y gallan nhw wneud gwahaniaeth enfawr gan ddefnyddio eu profiad bywyd.
“Ar ôl magu wyth o blant ein hunain, doedden i ddim yn sylweddoli faint o sgiliau oedd gen i yn barod, y wybodaeth oedd gen i. Mae’n anhygoel gallu ei drosglwyddo i bobl ifanc,” meddai Lorraine.
Dywedodd Paul eu bod wedi cefnogi rhieni mewn llawer o amgylchiadau gwahanol, ond y rhai sydd angen gofal gan amlaf yw mamau ifanc gyda babanod.
“Pe bai mam yn dod aton ni bedair i chwe wythnos cyn yr enedigaeth, yna gallwn wneud llawer o waith i feithrin perthynas ac ymddiriedaeth,” meddai Paul.
“Yna, pan fydd y babi’n cael ei eni, gallwn gychwyn o sylfaen cadarn. Mae’r fam yn ymddiried ynddon ni ac mae hi’n deall y broses yn glir. Ry’n ni’n mynd i weithio gyda nhw i greu amgylchedd lle y gallan nhw fagu plentyn yn ddigon da.”
Dywedodd Paul eu bod yn derbyn cefnogaeth gyson gan weithiwr cymdeithasol, yn ogystal ag unrhyw wasanaethau eraill y mae rhiant eu hangen tra yn eu gofal. Mae’n ymdrech tîm go iawn.

Cefnogi Demi trwy ei beichiogrwydd er mwyn byw yn annibynnol
Cyrhaeddodd Demi gartref Lorraine a Paul pan oedd hi 28 wythnos yn feichiog. Dim ond 17 oed oedd hi. Roedd Demi’n teimlo’n nerfus ynglŷn â chael ei maethu, yn enwedig tra’n disgwyl babi.
Ar ôl iddi gwrdd â Lorraine a Paul, tawelodd ofnau Demi. “Yn gyflym iawn, fe wnaethon ni i gyd glicio a dod i nabod ein gilydd,” meddai Demi. “Mae wedi troi allan yn anhygoel!”
Disgrifiodd sut y gwnaeth Lorraine a Paul ei helpu i deimlo’n ddiogel, sut y cafodd gefnogaeth drwy’r enedigaeth, ac yn y dyddiau cynnar tra’n gofalu am ei merch.
“Roeddwn i’n teimlo fel petawn i’n rhan o’r teulu,” meddai. “Roedd Lorraine yno pan gafodd fy merch ei geni – hi oedd y cyntaf i ddal fy merch.”
Mae Lorraine a Paul wedi cefnogi Demi i ofalu amdani hi ei hun a’i merch. “Mae’n golygu cael y cydbwysedd yna rhwng caniatáu i’r rhiant fod yn rhiant ond sicrhau bod y babi bob amser mewn lle diogel,” meddai Paul. “Mae llawer o feithrin a chefnogaeth yn gysylltiedig,” ychwanegodd Lorraine.
Ers ei phrofiad o faethu, mae Demi wedi bod yn gweithio’n galed i adeiladu ei dyfodol. Mae hi wedi dychwelyd i’r coleg i astudio peirianneg fecanyddol, ac mae’n paratoi ar gyfer byw’n annibynnol gyda’i merch unwaith y bydd hi’n 18 oed.
Os ydych chi wedi eich ysbrydoli gan stori Lorraine a Paul, cysylltwch â ni yma am sgwrs am ddod yn ofalwr maeth rhiant a phlentyn.
Os ydych chi’n byw mewn ardal arall o Gymru, rhowch glic ar wefan Maethu Cymru, lle cewch hyd i’r holl wybodaeth angenrheidiol am faethu a manylion cyswllt gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol.