blog

rwy’n sengl ac rwy’n maethu

Mae gennym ofalwyr maeth sy’n sengl, yn briod neu’n byw gyda’i gilydd, felly gallwch  faethu gyda ni os ydych chi’n sengl.

Efallai y byddwch chi’n synnu pa mor agored yw maethu, gall bron unrhyw un fod yn ofalwr maeth. Ond rydym yn parhau i glywed yr un hen gwestiynau, fel ‘a all rhiant sengl faethu?’ Alla i faethu, fel dyn sengl?

A all person sengl faethu?

bod yn ofalwr maeth sengl ?

Yn bendant!

Gallwch, gallwch faethu gyda ni os ydych yn ddyn sengl, yn fenyw sengl, yn unrhyw gyfeiriadedd rhywiol, os ydych eisoes yn rhiant sengl neu heb unrhyw brofiad magu plant o gwbl. Mae gan bobl sengl lawer i’w gynnig a gallant fod yn ofalwyr maeth gwych.

Darllenwch ragor gan Beth, rhiant sengl sy’n Maethu.

Rwyf wedi bod yn ofalwr maeth ers 8 mlynedd. Roeddwn i’n 27 pan gefais i fy nghymeradwyo. Ar hyn o bryd rwy’n ofalwr maeth tymor hir. Hefyd, rwy’n helpu weithiau gyda gofal dydd pan fo angen. Dechreuais fel gofalwr maeth tymor byr, a newidiodd hynny pan ddaeth plentyn bach dan ein gofal a oedd yn addas ar gyfer fy nheulu.

sut i ddod yn rhiant maeth sengl

Cymerodd y broses, o’r ymholiad yr anfonais drwy e-bost i’r adeg y cefais fy nghymeradwyo, 10 mis. Y cyfnod hwyaf y bu’n rhaid i mi aros oedd am ddyddiad y panel. Roedd aelodau’r teulu eisoes wedi dweud wrthyf fod y broses asesu yn gallu bod yn eithaf ymwthiol ac mae llawer o gwestiynau’n cael eu gofyn.

Roeddwn i’n teimlo, er ei bod hi’n ymddangos ei bod hi’n cymryd amser hir a chithau eisiau dechrau arni, roedd hi’n dda cael cyfle i fyfyrio ar bethau gyda fy merch a meddwl ai dyna oedd y penderfyniad cywir.

Young female sitting at a garden table with 3 young girls smiling

dewis y math cywir o faethu fel rhiant sengl

Un o’r anawsterau o ran bod yn ofalwr maeth i mi yw ffarwelio â phlant pan fydd plant yn symud ymlaen i gael eu mabwysiadu.

Roedd fy mhlentyn hynaf yn 8 oed pan ddechreuon ni faethu. Roedd hi’n ei chael hi’n eithaf anodd ffarwelio â phlentyn ar gyfer ei fabwysiadu, dyma un o’r rhesymau pam rydw i bellach yn maethu yn y tymor hir.

Ganed fy mhlentyn ieuengaf ar ôl i’r plentyn rown i’n maethu am dymor hir fod yma ers 2 flynedd. Mae hi’n meddwl amdani fel chwaer hŷn.

maethu ochr yn ochr â magu’ch plant ein hun

Fel gofalwr sengl gyda 2 o fy mhlant fy hun, gall ymdrin â’r holl glybiau ar ôl ysgol hefyd fod yn heriol. Mae fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol bob amser ar ben arall y ffôn neu ar e-bost os oes angen cyngor arnaf. Rwy’n mynd i’r grwpiau cymorth a drefnir gan yr awdurdod lleol i gwrdd â gofalwyr maeth eraill, rwyf wedi cael cefnogaeth wych gan eraill sy’n deal.

y pethau cadarnhaol am faethu

Un peth cadarnhaol i mi yw’r ffaith fy mod wedi cadw mewn cysylltiad â theuluoedd y plant sydd wedi symud ymlaen i gael eu mabwysiadu. Rwy’n derbyn lluniau a diweddariadau ac mae’n wych gweld faint maen nhw wedi tyfu. Rwy’n teimlo’n falch o wybod fy mod wedi bod yn rhan bwysig o fywyd y plentyn hwnnw.

cwestiynau cyffredin fel rhiant maeth sengl?

A all rhiant sengl faethu?

Gall, mae llawer o ofalwyr maeth sy’n sengl ac sy’n maethu. Mae llawer o wahanol fathau o faethu i gyd-fynd â’ch sgiliau, eich profiad a’ch argaeledd. Gall maethu fod yn heriol felly byddem yn sicrhau bod gennych lawer o gefnogaeth o’ch cwmpas.

Dwi’n sengl ac yn aelod o’r gymuned LHDT, alla i fod yn ofalwr maeth?

Yn bendant, mae gennym lawer o ofalwyr maeth LHDTC, rhai sengl a pharau. Nid yw eich cyfeiriadedd rhywiol yn chwarae rhan wrth faethu.

A all dyn sengl faethu?

Wrth gwrs, p’un a ydych yn sengl neu mewn pâr, mae dynion yn chwarae rhan bwysig mewn maethu fel ffigur tadol ac wrth rannu diddordebau.  Gwyliwch stori faethu galonogol David.

A all menyw sengl faethu?

Gall, mae llawer o bobl yn disgwyl i ofalwyr maeth fod mewn pâr, ond mae llawer o bobl sengl yn maethu hefyd. Byddwn yn sicrhau bod gennych ddigonedd o arweiniad a chyngor, fel grŵp cymorth misol Maethu Cymru CNPT ar gyfer rhieni maeth sengl.

Allwch chi faethu os oes gennych gariad neu bartner nad yw’n byw gyda chi?

Os ydych yn sengl ond yna’n dechrau perthynas, gallwn gynnwys eich partner newydd mewn asesiad a gwiriadau cefndir er mwyn i’ch partner faethu gyda chi.

Allwch chi faethu os ydych yn byw ar eich pen eich hun?

Gallwch, os oes ystafell wely sbâr ar gael.

Alla i weithio a maethu?

Gallwch, mae rhai rhieni maeth sengl sy’n gweithio yn dewis darparu seibiannau byr a gofal maeth i’w caniatáu i barhau i weithio’n amser llawn.

Oes angen unrhyw brofiad arnaf?

Does dim rhaid i chi fod wedi bod yn rhiant a does dim angen i chi fod wedi gweithio gyda phlant o’r blaen. Byddai rhywfaint o brofiad o fod o gwmpas plant, naill ai drwy warchod plant yn ddiweddar, gofalu am nithoedd a neiod, neu wirfoddoli yn fuddiol ar gyfer eich asesiad.

A oes unrhyw gefnogaeth ychwanegol ar gyfer gofalwyr maeth sengl?

Os nad oes gennych unrhyw ffrindiau neu deulu yn byw gerllaw i’ch helpu, gall tîm Maethu Cymru eich cyflwyno i ofalwr maeth arall sy’n byw gerllaw i gynnig cymorth a chyngor i chi. Mae Maethu Cymru CNPT yn trefnu grŵp cymorth misol yn benodol ar gyfer rhieni maeth sengl sy’n ceisio arweiniad a chyngor pellach gan ofalwyr maeth profiadol.

A fyddaf yn gallu hawlio budd-dal plant?

Gallwch hawlio budd-dal plant ar gyfer eich plant eich hun, ond ni allwch hawlio am unrhyw blant maeth. Darllenwch ein blog “y canllaw gorau i dâl gofalwyr maeth”

pethau i’w hystyried fel rhiant maeth sengl?

Argaeledd

Gall gwyliau’r ysgol fod yn heriol fel rhiant maeth sengl. Mae clybiau plant haf, gall eich teulu helpu ac efallai y bydd gofalwyr maeth eraill yn gallu cynnig seibiant – ond mae’r haf yn adeg boblogaidd o’r flwyddyn i ofyn am gymorth. Os ydych chi’n gweithio, efallai y bydd cyflogwr cefnogol yn cynnig gwyliau blynyddol ychwanegol neu oriau gwaith hyblyg i chi fel rhan o bolisi AD sy’n hwyluso maethu.

Rhwydwaith cymorth

Nid yw’n hawdd gofalu am blant sydd wedi profi dechrau trawmatig mewn bywyd. Bydd angen ffrindiau a theulu cefnogol, cyflogwr cefnogol os ydych yn gweithio, ac mae’n dda cael gofalwyr maeth eraill i siarad â nhw. Efallai eich bod yn delio â rhai sefyllfaoedd ar eich pen eich hun. Yn enwedig ar y penwythnos neu gyda’r nos, efallai fod rhywbeth y mae plentyn wedi ei rannu gyda chi ar eich meddwl, nes eich bod yn gallu siarad â gweithiwr cymdeithasol y diwrnod canlynol.

Cyllid

Fel gofalwr maeth, byddwch yn derbyn cymorth ariannol i ofalu am blant yn ogystal â thaliad i chi. Bydd eich tîm Maethu Cymru yn eich helpu i ystyried eich sefyllfa ariannol eich hun, fel gofalwr maeth sengl, yn enwedig os nad oes gennych ffynhonnell incwm neu fudd-daliadau eraill.

Math o Faethu

Cymerwch gyngor y gweithiwr cymdeithasol sy’n goruchwylio ar ba fath o faethu y maent yn credu fyddai’n gweddu orau i’ch teulu. Os cewch y cyfle, siaradwch â gofalwyr maeth eraill sydd â theulu tebyg i chi.

4 mantais fawr bod yn ofalwr maeth sengl

  1. Gall y broses asesu fod ychydig yn gyflymach gan mai dim ond eich gwiriadau cefndir chi a’ch argaeledd chi ar gyfer apwyntiadau, hyfforddiant ac ati, sy’n cael eu hystyried.
  2. Pan fydd y ffôn yn canu, gall y penderfyniad i ddweud “ie” fod yn gyflymach. Nid oes angen i chi siarad â phawb arall yn y cartref.
  3. Gall rhai plant maeth chwarae cwpl yn erbyn ei gilydd. Fel gofalwr maeth sengl, dim ond chi sydd, a gallwch roi sylw 1:1 iddynt.
  4. Efallai y bydd rhai plant yn fwy cyfforddus gydag un gofalwr maeth. Efallai y bydd eich perthynas â’r rhiant biolegol yn haws hefyd.

gwnewch wahaniaeth trwy faethu gyda’ch awdurdod lleol

Ni yw Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot, rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Ein nod yw creu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned. Cysylltu â ni i ddarganfod mwy.

Os ydych chi’n byw mewn ardal arall o Gymru, rhowch glic ar wefan Maethu Cymru, lle cewch hyd i’r holl wybodaeth angenrheidiol am faethu a manylion cyswllt gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers