sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Felly rydych chi’n meddwl mwy am gychwyn ar eich taith tuag at fod yn rhiant maeth.
Ond faint o amser mae’r broses yn ei chymryd yng Nghastell-nedd Port Talbot?

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl.

bachgen ifanc yn siarad i'w theulu

y cam cyntaf

Mae’n debyg mai’r cam cyntaf yn eich taith faethu yw’r cam pwysicaf: anfon e-bost aton ni neu godi’r ffôn a rhoi gwybod i ni bod gennych chi ddiddordeb.

teuku yn chwarae efo'i ci ar y traeth

yr ymweliad cartref

Ar ôl i chi gysylltu â ni, byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod i’ch adnabod chi drwy ymweld â’ch cartref. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu galwad fideo yn lle hynny.

Ar hyn o bryd, rydyn ni eisiau dod i’ch adnabod chi, eich sefyllfa a chael gwybod mwy am ble rydych chi’n ei alw’n gartref. Mae’n bwysig ein bod ni’n meithrin perthynas â chi.

teuku yn siarad wrth ymyl bwrdd

yr hyfforddiant

Mae cam cyntaf eich hyfforddiant a’ch datblygiad yn dysgu mwy i chi am faethu, er mwyn i chi fod yn siŵr mai dyma’r llwybr iawn i chi. Mae hefyd yn gyfle i chi gwrdd â gofalwyr maeth newydd eraill ar yr un cam o’u taith. Enw’r cwrs hyfforddi cyntaf hwn yw “Paratoi i Faethu”, neu weithiau “sgiliau maethu”. Bydd yn digwydd dros ychydig ddyddiau neu gyda’r nos.

Mae’n ymwneud â datblygu gwybodaeth, cysylltiadau a rhwydweithiau gwerthfawr sy’n para.

teulu yn gwenu ac yn eistedd ar grisiau

yr asesiad

Ar ôl i ni ymweld â chi, byddwn ni’n dechrau asesu. Dydy hwn ddim yn brawf o bell ffordd, dim ond cyfle i’n tîm siarad â’ch ffrindiau a’ch teulu. Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi a’ch teulu ac yn ystyried rhai o’ch cryfderau a’ch gwendidau gyda’n tîm gwaith cymdeithasol.

Pwrpas asesiad yw eich paratoi ar gyfer y daith heriol, ond werth chweil, tuag at faethu.

Bachgen yn gwenu a rhedeg are y traeth

y panel

Mae’r panel yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol proffesiynol, arbenigwyr cymunedol ac aelodau annibynnol, sy’n brofiadol ac sy’n gwybod llawer am faethu, a dyma’r bobl a fydd yn adolygu eich asesiad.

Mae’n bwysig cofio na fydd y panel yn derbyn neu’n gwrthod eich asesiad, ond yn hytrach yn ei ystyried o safbwynt gwahanol. Bydd aelodau’r panel yn gwneud argymhellion unigol ar sail eich sefyllfa unigryw.

teulu yn cerddedd gyda'i gilydd

y cytundeb gofal maeth

Ar ôl i’n panel gymeradwyo eich asesiad, byddwch wedyn yn cael cytundeb gofal maeth.
Mae hwn yn gytundeb sydd wedi’i deilwra’n arbennig, a fydd yn nodi beth mae’n ei olygu i chi fod yn ofalwr. Bydd yn cynnwys eich cyfrifoldebau o ddydd i ddydd, y gefnogaeth a’r arweiniad a gewch gennyn ni yn ogystal â’r gwasanaethau sydd ar gael.

Bachgen ifanc yn siarad i teulu

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltu â ni

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.