sut rydyn ni’n eich cefnogi chi
cymorth a lwfans yng Ngheredigion
sut rydyn ni’n eich cefnogi chi
Rydym yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu i ddarparu cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.
Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru CNPT yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond nid yw’r gefnogaeth yn dod i ben yno.
Unwaith y byddwch yn maethu gyda Maethu Cymru CNPT, rydym yn cynnig:
- arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol goruchwylio neilltuedig
- lwfansau maethu ar gyfer pob plentyn rydych chi’n gofalu amdano
- cymorth ymarferol gan ein swyddogion cadw
- mynediad at dîm therapiwtig mewnol
- cymuned o deuluoedd maethu lleol sy’n gallu darparu cymorth gan gymheiriaid
- A digon o fuddion eraill.
Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.
Gallwch ddarllen mwy i ddysgu am y cymorth maethu a’r buddion rydym yn eu cynnig.
lwfans gofal maeth
A yw gofalwyr maeth yn cael eu talu?
Ydy, mae gofalwyr maeth yn derbyn lwfans i dalu am gostau gofalu am blentyn. Bydd y swm hwn yn amrywio yn seiliedig ar lawer o ffactorau, gan gynnwys
- faint o blant rydych yn eu maethu,
- oedran y plant
- a’r math o faethu.
Fodd bynnag, nid yw bod yn ofalwr maeth yn swydd gonfensiynol; mae’n wahanol i bob swydd arall. Mae’n rôl broffesiynol amser llawn o’r cartref, ac rydym yn darparu cymorth ariannol i’ch helpu i’w chyflawni.
Mae gofalwyr maeth yn derbyn lwfansau i dalu am gostau gofalu am blentyn ac i’w cydnabod yn eu rolau fel gofalwyr maeth. Ym Maethu Cymru CNPT, rydym am i blant dderbyn popeth y mae ei angen arnynt i ffynnu, felly rydym yn rhannu’r taliad yn 3 rhan; lwfans plant wythnosol + lwfans gofalwyr cynyddol + taliadau ychwanegol.
Lwfans plentyn
Lwfans gofalwr cynyddol
Taliadau ychwanegol
Ein hymrwymiad i chi
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi llofnodi'r hyn a elwir yn 'ymrwymiad cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn cynhwysfawr o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau a ddarperir i'n holl ofalwyr maeth ledled Cymru.
Eich tîm maethu CNPT lleol
Nid ydych ar eich pen eich hun. Bydd gennych dîm lleol i’ch cefnogi a’ch annog bob cam o’r ffordd.
Mae cefnogaeth ar gael ar unrhyw adeg, nid yn ystod oriau swyddfa yn unig. Rydym yn ymroddedig i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu ein bod yn darparu cymorth 24/7. Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Byddwn yno.
Gweithiwr cymdeithasol goruchwylio neilltuedig
Bydd gennych weithwyr cymdeithasol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sy’n ymrwymedig i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.
Mae tîm Maethu Cymru CNPT yn rhan o’r awdurdod lleol, gan weithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu bod mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill.
Cefnogaeth gan gymheiriaid
Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i grwpiau cefnogi, digwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth lleol eraill. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi gael profiadau newydd, meithrin cyfeillgarwch newydd a chreu atgofion newydd. Mae gennym dîm o ofalwyr maeth arloesol, profiadol a hyfforddedig sydd ar gael i ddarparu cymorth ychwanegol.
cyfleoedd dysgu
Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.
mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?
Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.