ffyrdd o faethu
mathau o faethu
mathau o ofal maeth
Mae gofal maeth yn ymwneud â darparu man diogel i’w alw’n gartref. Rhywle lle gall plant chwerthin, dysgu a chael eu caru.
Mae cartrefi maeth da ar gael o bob lliw a llun, ond mae gan bob un ohonyn nhw un peth yn gyffredin – darparu cartref cariadus i blentyn sydd ei angen.
O seibiant tymor byr, aros dros nos neu ofal maeth am flwyddyn gyfan, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o opsiynau gofal maeth yng Nghastell-nedd a Phort Talbot. Mae pob plentyn neu berson ifanc yn wahanol, felly mae gofyn i ni allu cynnig amrywiaeth o ofal i ddiwallu eu hanghenion.
gofal maeth tymor byr
Gall gofal maeth tymor byr fod am awr, diwrnod neu flwyddyn. Mae’n ateb i berson ifanc y mae angen sefydlogrwydd arno tra bydd ei ofal yn y dyfodol yn cael ei gynllunio.
Os byddwch chi’n ymuno â’n tîm ac yn darparu gofal maeth tymor byr, mae’n golygu y byddwch chi’n rhan o’r daith i blentyn neu berson ifanc. Byddwch chi’n helpu i gefnogi plentyn ac yn ei baratoi ar gyfer ei gam nesaf tuag at deulu maeth newydd, i gael ei fabwysiadu neu at ei deulu.
Dydy arhosiad byr ddim yn golygu gwneud llai o wahaniaeth chwaith, gan y byddwch yn darparu’r lle diogel cyntaf hwnnw fel sylfaen i blentyn gael dyfodol gwell.
gofal maeth tymor hir
Gall gofal maeth tymor hir olygu teulu cwbl newydd i berson ifanc. Mae paru ar gyfer lleoliad mwy parhaol yn cael ei ystyried yn ofalus ar gyfer rhywun sydd angen sefydlogrwydd.
Mae’r math yma o ofal yn golygu darparu lle diogel am gyfnod hwy er mwyn i berson ifanc allu teimlo’n ddiogel a bod rhywun yn ei garu. Mae’n golygu creu amgylchedd sefydlog i helpu i greu dyfodol gwell iddo.
mathau arbenigol o ofal maeth
Mae ein holl ofal maeth yn ofal tymor byr neu’n ofal tymor hir. Ond, rydyn ni’n cynnig rhai mathau arbenigol o faethu ar gyfer amgylchiadau penodol. Gall y rhain fod yn:
seibiant byr
Mae ein holl ofal maeth yn ofal tymor byr neu’n ofal tymor hir. Ond, rydyn ni’n cynnig rhai mathau arbenigol o faethu ar gyfer amgylchiadau penodol. Gall y rhain fod yn:
Mae angen seibiant ar bob un ohonon ni weithiau ac mae seibiant byr yn cynnig hynny i berson ifanc neu blentyn. Cyfle i ddianc, cael ei gefn ato a chael profiad o deulu newydd mewn cartref newydd.
Mae seibiant byr yn cael ei alw’n ofal cymorth weithiau, a gall olygu unrhyw beth o ddiwrnod i ffwrdd, aros dros nos neu benwythnosau rheolaidd. Byddwn yn gweithio gyda chi i’w cynllunio ymlaen llaw, felly byddwch yn gwybod pryd i’w ddisgwyl. Mae seibiant byr yn cynnig cyfle a phrofiadau newydd i blant, gan greu teulu estynedig iddyn nhw.
rhiant a phlentyn
Mae lleoliadau rhiant a phlentyn yn gyfle gwych i rannu eich profiadau magu plant eich hun â rhywun sydd angen eich cefnogaeth chi. Byddwch yn meithrin nid yn unig y genhedlaeth nesaf ond hefyd yn helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael dyfodol disglair.
Darllenwch fwy: Maethu rhiant a phlentyn yng Nghastell Port Talbot
gofal therapiwtig
Mae gofal therapiwtig yn fath arbennig o ofal maeth sy’n cynnig cefnogaeth ychwanegol i’r bobl ifanc a’r plant sydd angen hynny. Byddwn wrth law i roi arweiniad i chi hefyd er mwyn i chi a’r plentyn gael y gorau o’r math hwn o ofal.
cam i lawr maethu a mwy
Dyma wasanaeth newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, ble rydyn ni’n chwilio am ofalwyr maeth i gefnogi plant a phobl ifanc i gamu i lawr o leoliad gofal preswyl (cartref plant) i mewn i gartrefi maeth.