mathau o faethu
Rydyn ni’n cynnig nifer o wahanol fathau o faethu i gyd-fynd â'ch bywyd: boed hynny am ychydig oriau, am benwythnos neu am fis. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r gwahanol fathau ar gael yma.
dysgwch mwyffyrdd i maethu
Mae angen rhieni maeth arnon ni sy’n unigryw ac sy’n gallu gweld bywyd mewn ffordd unigryw. Pobl sy’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd a chymunedau, ac sy’n dod â’u profiadau bywyd eu hunain i ofal maeth.
P’un ai ydych chi’n sengl, yn briod neu mewn partneriaeth sifil, yn berchen ar eich cartref neu’n rhentu – rydych chi’n berffaith ar gyfer person ifanc yn ein cymuned.
Rydyn ni’n mynd ati i ddathlu amrywiaeth. Rydyn ni’n credu bod sgiliau ehangach o fudd i bawb yn ein hardal.
Os ydych chi’n dal i feddwl am bwy all faethu yng Nghastell-nedd Port Talbot neu os hoffech chi wybod mwy am y mythau sy’n ymwneud â maethu, daliwch ati i ddarllen:
Rydyn ni’n gofyn cwestiwn i bawb sy’n ystyried maethu: allwch chi wneud gwahaniaeth i berson ifanc sydd angen hynny?
Mae’n dal yn bosibl i chi faethu os ydych chi’n gweithio hefyd, ond efallai y bydd angen meddwl mwy am hyn. Er enghraifft, efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnoch gan eich teulu a’ch ffrindiau agos. Efallai y byddwch hefyd yn penderfynu mai math penodol o faethu, fel seibiant byr ar benwythnosau, fyddai orau i chi.
Rydyn ni’n gwybod faint o ymrwymiad yw maethu, felly byddwn yn gweithio gyda chi i weld sut gall fod yn rhan o’ch bywyd.
Yn bendant, p’un ai ydych chi’n rhentu neu’n berchen ar eich cartref, rydych chi’n dal yn gymwys i fod yn rhiant maeth. Cyn belled â bod gennych chi ystafell sbâr ac amgylchedd diogel a chariadus i’w gynnig i berson ifanc, byddwch chi’n wych.
Gallwch faethu hyd yn oed os oes gennych chi eich plant eich hun. Yn syml, bydd yn golygu bod gennych chi fwy o bobl yn eich teulu i’w caru ac i ofalu amdanyn nhw! Mae plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn aml yn ffynnu mewn teuluoedd mwy lle maen nhw’n dysgu datblygu eu perthnasoedd eu hunain.
Mae cael brodyr a chwiorydd maeth newydd yn gyfle cyffrous i wneud ffrindiau am oes a datblygu ymdeimlad o empathi.
Gallwch faethu beth bynnag fo’ch oedran – does dim terfyn oedran ar gyfer cynnig cartref cariadus a llawn gofal i blentyn mewn angen.
Pan fyddwch chi’n ymuno â’n tîm yn Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot, byddwn yn rhoi’r hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi i ffynnu ar eich taith faethu.
Does dim terfyn oedran isaf ar gyfer maethu mewn gwirionedd chwaith.
Er bod gallu rhannu profiad bywyd yn wych, does dim ots faint yw eich oedran chi, cyn belled â’ch bod yn gallu cynnig cartref diogel i berson ifanc yn ein hardal.
Does dim gofyn bod mewn unrhyw fath o berthynas i fod yn ofalwr maeth yng Nghastell-nedd Port Talbot. Felly, os ydych chi’n sengl, yn briod neu mewn partneriaeth, y cyfan rydyn ni’n gofyn i chi ei wneud yw cynnig cysondeb a chariad i blentyn. Os ydych chi’n hyderus y gallwch chi gynnig hyn, bydd ein tîm yn eich helpu i weld ai dyma’r amser iawn i gychwyn ar eich taith faethu.
Gallwch, gallwch fod yn rhiant maeth beth bynnag fo’ch rhywedd. Dydy eich rhywedd ddim yn ymwneud â p’un ai fyddwch chi’n rhiant maeth gwych ai peidio. Rydyn ni’n chwilio am brofiadau bywyd a phersonoliaeth ddisglair.
Eto, dydy eich dewis rhywiol ddim yn cael ei ystyried o gwbl yng nghyswllt maethu. Yn syml iawn, rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n gallu cynnig lle diogel i berson ifanc yn eich cymuned.
Mae ein tîm yn Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot yn gwybod pa mor bwysig yw unrhyw anifail anwes i deulu a fydd hyn ddim yn effeithio ar eich gallu i faethu o gwbl.
Byddwn yn eu cynnwys yn eich asesiad cychwynnol, a phan fyddwn ni’n eich paru â phlentyn, byddwn yn gwneud yn siŵr eu bod i gyd yn cyd-dynnu yn gyntaf.
Er bod gan bob awdurdod lleol bolisïau gwahanol o ran ysmygu, y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod yn onest o’r dechrau. Gallwn gynnig help i chi roi’r gorau iddi os ydych chi’n dymuno. Yn y pen draw, mae’n golygu eich paru â’r person ifanc iawn, felly dyna beth rydyn ni’n canolbwyntio arno.
Yn bendant, rydych chi’n dal i allu maethu os ydych chi’n ddi-waith. Rydyn ni’n chwilio am rieni maeth rhagorol felly fydd eich statws cyflogaeth ddim yn effeithio ar eich cais o gwbl. Rydyn ni’n gwybod mai cartref cariadus a chyfforddus yw’r cyfan sy’n bwysig.
Does dim ots beth yw maint eich tŷ – does dim rhaid i chi gael tŷ mawr i faethu. Cyn belled â bod gennych chi ystafell sbâr, byddwch chi’n ymgeisydd perffaith i fod yn ofalwr maeth.
Gallwch! Gallwch faethu gyda ni os ydych chi’n sengl – mae gennym ofalwyr maeth sy’n sengl, yn briod neu’n byw gyda’i gilydd.