blog

Maethu awdurdod lleol a fi

Dwaine, ydw i. Dwi wedi bod yn rhan o ‘deulu maeth’ ers 14 a hanner o flynyddoedd. Pan gyhoeddwyd am y tro cyntaf fod fy rhieni’n mynd i fod yn rhieni maeth, roeddwn i ar fin dechrau teulu fy hun. A dweud y gwir, symudodd fy mrawd maeth i’m cartref teuluol ar y pryd ar yr un diwrnod ag y ganed fy mab.

Rwy’n cofio’r diwrnod fel pe bai’n ddoe. Roedd fy mlaenoriaethau wedi newid o fewn ychydig oriau, ac ar ben hynny, roedd deinameg y teulu roeddwn wedi dibynnu arno’n fawr yn y gorffennol, yn cael ei ddisodli gan rhywun roeddwn i’n bryderus ac yn ansicr yn ei gylch.

Gofidiau

Rydych chi’n clywed straeon arswyd, yr ofn ynghylch beth sy’n gallu digwydd nesaf – ac yn fwy felly, gobeithio y byddai fy mhlentyn yn ddiogel yn fy hen gartref, ac na fyddai’n peidio â chael y gofal a’r gefnogaeth a roddwyd i fi a fy mrodyr gan fy rhieni pan oedden ni’n tyfu lan.

Siaradais â fy rhieni am fy mhryderon, a ches i fy sicrhau bod yr aelod newydd o’r teulu’n deall y sefyllfa, a’i fod yn y bôn yn mo’yn bod yn rhan o’r teulu a chael gofal: yn union fel fy mab newydd-anedig.

Ar yr adeg hon o fy mywyd, roeddwn i’n meddwl fy mod i’n barod ar gyfer y cyfrifoldeb a’r newid. Roeddwn i wedi croesawu’r meddylfryd newydd o fod yn rhiant oherwydd y newid yn fy mywyd.  Ond doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i’n bersonol yn gwerthfawrogi’r newid mawr hwn.

Trwy sgyrsiau â’m rhwydwaith cefnogi, y gweithwyr cymdeithasol a ddaeth yn rheolaidd

dechreuais ystyried y newidiadau fel cyfle, lle gallai dechrau newydd ddarparu ymdeimlad o berthyn ar gyfer fy mab newydd-anedig a fy mrawd maeth yn awr.

Roedd y cyfnod ymgartrefu’n fwy llyfn na’r disgwyl. Dechreuodd fy mrawd maeth gymryd rhan mewn pethau ac roedd am ymwneud â’r ychwanegiad newydd. Dechreuodd ddilyn ymddygiadau a phatrymau a ddangoswyd gan aelodau o’r teulu, a oedd wedi helpu i ddarparu ymdeimlad o berthyn a chael gwared ar y teitl “aelod newydd”.

Mae’r berthynas wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd sydd wedi mynd heibio. Mae’r rhwydwaith cefnogi a ddarparwyd wedi dod yn naturiol ac yn gytbwys, fel pe bai’r dyn ifanc bob amser wedi bod yn rhan o’n deinameg teulu. Rydym yn ystyried ein gilydd yn frodyr.

Rwy’n falch iawn o fy mrawd maeth, neu fel sy’n well gen i ddweud, fy mrawd. Yn enwedig yr hyn mae wedi’i gyflawni trwy oresgyn y rhwystrau a gafwyd. Mae bellach wedi symud i’w eiddo ei hun ac mae’n astudio yn ei goleg lleol.

Hoffwn feddwl, yn yr un modd, fod fy nheulu wedi dod yn uned well trwy faethu. Mae maethu wedi fy nghefnogi’n bersonol yn fy mywyd ac yn broffesiynol yn fy ngyrfa.

Maethu ar gyfer eich awdurdod lleol

Story Time

Stories From Our Carers