maethu yng nghastell-nedd port talbot
Ni yw Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot, rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Ein nod yw creu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned.
Am ddechrau eich taith fel gofalwr maeth yng Nghastell-nedd Port Talbot? Gydag e-bost neu alwad syml, gallwch ddechrau heddiw. Cysylltwch â ni
Stondinau gwybodaeth am faethu
Sut mae'n gweithio
Mae dechrau’r daith i ddod yn ofalwr maeth yn haws nag rydych efallai’n ei feddwl.
Cefnogaeth a gwobrwyon
Byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch i'ch helpu i adeiladu dyfodol gwell, mwy disglair i blant lleol. Mae maethu'n ymwneud â newid bywydau plant yng Nghastell-nedd, Port Talbot a Phontardawe. Mae'n golygu ymrwymo i ddarparu sefydlogrwydd, cariad a thosturi i blentyn neu berson ifanc yn ein hardal.
Cefnogaeth a gwobrwyon
Byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd drwy eich taith. O hyfforddiant, cyngor a chael sgwrs, rydym yma i chi. Bob amser.
dod yn ofalwr maeth
Hoffech chi gychwyn ar eich taith fel gofalwr maeth yng Nghastell-nedd Port Talbot? Gallwch ddechrau arni heddiw, dim ond drwy wneud galwad ffôn neu anfon e-bost. cysylltu â ni