ffyrdd o maethu
eisoes yn maethu?
eisoes yn maethu?
Felly, rydych chi eisoes yn maethu yng Nghymru ac yn awyddus i drosglwyddo i Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot. Mae’r broses drosglwyddo yn hawdd iawn.
Os ydych chi eisoes yn maethu gydag Awdurdod Lleol arall yng Nghymru, rydych chi eisoes yn rhan o Maethu Cymru. Fel rhwydwaith cenedlaethol ar draws pob un o’r 22 o wasanaethau’r Awdurdodau Lleol, byddwch eisoes yn gyfarwydd â’n prosesau a’n ffyrdd o weithio.
Os nad ydych chi’n maethu gyda Maethu Cymru, mae trosglwyddo’n llawer haws nag yr ydych chi’n ei feddwl. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod er mwyn symud.
Dyma beth sydd angen i chi ei wybod os ydych chi’n bwriadu maethu mwy o blant yn ein cymuned ac yn dymuno trosglwyddo:
sut i drosglwyddo atom ni
Dim ond cysylltu â ni sydd raid er mwyn trosglwyddo i’n tîm lleol. Naill ai drwy anfon e- bost neu ffonio – cysylltu â ni fydd cam cyntaf eich taith.
Bydd ein tîm yn trafod sut beth yw maethu gyda’n tîm, ac os ydych chi’n gyfforddus gyda symud, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cefnogi i drosglwyddo.
pam trosglwyddo
P’un ai ydych chi wedi symud yn ddiweddar neu’n dymuno gweithio gyda phlant mewn ardal wahanol, ein prif bwrpas yw darparu cartref diogel a saff i blentyn yn ein gofal. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n ystyried beth sydd orau i’r plant rydyn ni’n gyfrifol amdanyn nhw.
Mae ymuno â’n tîm lleol yn golygu cael teulu newydd o ofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n canolbwyntio ar yr un peth â chi; sicrhau dyfodol mwy disglair i blant Castell-nedd Port Talbot.
Rydyn ni wedi ymrwymo i’ch grymuso chi i fod y gofalwr gorau y gallwch chi fod, gan gynnig cefnogaeth a hyfforddiant pwrpasol drwy gydol eich taith.
Beth am ddysgu mwy am y manteision a’r buddion rydyn ni’n eu cynnig yma.