pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Mae bod yn ofalwr maeth gyda’n tîm yn Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot yn golygu y byddwch hefyd yn cael lwfansau ariannol cystadleuol. Bydd y rhain yn seiliedig ar nifer o ffactorau fel y math o faethu rydych chi’n ei gynnig, faint o blant neu bobl ifanc rydych chi’n gofalu amdanyn nhw,  ac am ba hyd.

Mae gofalwyr maeth yng Nghastell-nedd Port Talbot yn derbyn lefelau tâl gwahanol yn dibynnu ar ffactorau fel y rhain. Er enghraifft, byddai lleoli dau berson ifanc yn eu harddegau hŷn yn arwain at lwfans o £795.00 yr wythnos.

buddion eraill

Mae llawer mwy o fuddion i fod yn ofalwr maeth. Yn ogystal â’r budd emosiynol a’r gefnogaeth barhaus y soniwyd amdanyn nhw eisoes, byddwch hefyd yn cael:

  • Mynediad at ein tîm therapiwtig (yn y Gwasanaeth Maethu), gan gynnwys seicolegydd.
  • Mynediad at offer TG drwy ein prosiect E-Ofal.
  • Dyfarniadau i gydnabod hyd gwasanaeth.
  • Aelodaeth ar gyfer y cartref maeth i gyfleusterau lleol Hamdden Celtic.
  • Mynediad i Gymdeithas Gofalwyr Maeth Castell-nedd Port Talbot.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Yn ogystal â’r manteision hyn, os byddwch yn ymuno â Maethu Cymru, byddwch yn elwa o raglen genedlaethol o hyfforddiant, manteision a chefnogaeth barhaus y mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol wedi ymrwymo iddi. Yr Ymrwymiad Cenedlaethol.

Mae ymuno â ni yn golygu y byddwch yn elwa o’r canlynol:

teuku yn chwerthin ac yn cerdded

un tîm

Mae tîm Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot yn gweithio fel un uned gyda chi a phawb sy’n ymwneud â bywydau ein plant maeth, fel gwasanaeth cyflawn. Mae’n golygu cysondeb ac arbenigedd lle mae ei angen fwyaf.

Mae gweithio fel un tîm yn golygu dod at ein gilydd i wneud yr hyn sydd orau yn y pen draw i blant yn ein cymuned hefyd, gan weithio tuag at ddyfodol mwy disglair iddyn nhw i gyd.

teuku ogwmpas bwrdd yn chwerthin

dysgu a datblygu

Os byddwch yn dewis bod yn ofalwr gyda ni, byddwch hefyd yn ymrwymo i ddysgu a datblygu’n barhaus gan fod ein fframwaith yn cynnwys cynllun hyfforddi helaeth. Mae datblygu eich gwybodaeth a’ch profiad yn rhan hanfodol o fod yn ofalwr maeth felly, rydyn ni’n ei gwneud yn hawdd i chi barhau i ddysgu.

Byddwch yn gallu cael gafael ar yr holl offer a hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i wneud yn siŵr eich bod yn gallu diwallu anghenion pob plentyn yn eich gofal.

Er mwyn cadw llygad ar eich datblygiad parhaus, byddwn yn creu cofnod dysgu personol a fydd yn eich helpu i gofnodi eich taith eich hun i’r pwynt hwn. Mae’r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy iawn, ac maen nhw o fudd i chi am weddill eich oes.

dyn gyda'i braich ogwmpas dyn ifanc yn gwenu

cefnogaeth

Mae ymuno â thîm Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot yn golygu na fyddwch chi byth ar eich pen eich hun. Byddwn ni’n eich cefnogi chi bob amser er mwyn helpu i’ch annog yn ystod pob cam.

Bydd gennych dîm o weithwyr cymdeithasol proffesiynol a phrofiadol, yn ogystal â gofalwyr maeth ymroddedig i’ch helpu chi a’ch teulu maeth.

Yn ogystal, byddwn yn eich cysylltu ag amrywiaeth o grwpiau cefnogi lleol i rannu profiadau maethu, cwrdd â gofalwyr eraill a gwrando ar eu straeon hefyd. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn rhan bwysig o’r gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig ac mae’n gadael i chi ddod yn ffrindiau am oes â phobl o’r un anian, sydd wedi ymrwymo i’r un daith â chi.

Yn ogystal ag amrywiaeth o gymunedau newydd, byddwn hefyd yn cynnig cefnogaeth broffesiynol i chi, unrhyw bryd y bydd ei hangen arnoch. Rydyn ni yma i’ch helpu chi, ddydd a nos – wedi’r cyfan, dydy gofal maeth ddim yn dod i ben ar ôl y diwrnod gwaith.

Mae ein tîm yr un mor ymroddedig â chi i sicrhau’r gofal a’r ymrwymiad gorau posibl i’r plant yn ein cymuned leol.

teulu yn cerdded lawr traeth

y gymuned faethu

Cymuned yw popeth i ni yn Maethu Cymru. Byddwch yn cael gwahoddiad i ddigwyddiadau lleol, gweithgareddau rheolaidd a chyfarfodydd eraill a fydd yn dod â chi’n nes at ofalwyr a phlant eraill.

Byddwn hefyd yn talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Rydyn ni’n credu’n gryf mai’r rhain yw’r sefydliadau maethu gorau i gynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth helaeth yn ogystal â llu o fanteision eraill.

bachgen ifanc yn chwarae efo pêl

llunio’r dyfodol

Mae ein tîm yn credu mewn canolbwyntio ar y presennol ac ar ddyfodol gwell i bob person ifanc mewn gofal, yn hytrach na chanolbwyntio ar y gorffennol. Fel gofalwr maeth, byddwch yn dod yn rhan hanfodol o bresennol a dyfodol plentyn yn eich gofal.

Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed ar lefel leol, ranbarthol a hyd yn oed lefel genedlaethol, a byddwn yn eich cynnwys chi yn y broses o wneud penderfyniadau ar ran Maethu Cymru a’r holl brosesau rydyn ni’n eu creu yn y dyfodol. Rydyn ni am i’n gofalwyr ddweud wrthyn ni sut beth yw bywyd fel rhiant maeth a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni.

Byddwch hefyd yn cael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan y diwydiant ehangach.

Bachgen ifanc yn siarad i teulu

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’n tîm maethu cymru lleol

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.