sut mae'n gweithio
sut mae'n gweithio
sut mae’n gweithio
Mae maethu yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ymwneud â chyswllt, gyda rhwydwaith arbennig o ofalwyr a’n timau’n darparu arbenigedd, cefnogaeth broffesiynol ac arweiniad pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.
gwell gyda’n gilydd
Rydyn ni’n gallu cynnig cymaint o gefnogaeth oherwydd ein bod ni’n rhan o Maethu Cymru: lle mae 22 o Awdurdodau Lleol ledled y wlad yn cydweithio. Mae popeth rydyn ni’n ei wneud ar gyfer y bobl yn ein cymuned, ac mae hynny’n wir ledled y wlad hefyd.
Rydyn ni’n gweithio fel tîm yn barhaus – oherwydd rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n well gyda’n gilydd. Rydyn ni’n gwneud popeth er mwyn gwneud popeth yn well ac er mwyn ein galluogi ni i roi mwy, lle mae ei angen fwyaf.
beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?
Dim asiantaeth faethu arall yn unig ydyn ni. Rydyn ni’n fenter genedlaethol gyda safbwynt lleol. Mae ein gwasanaeth a’n ffocws yn canolbwyntio ar y plant a’r teuluoedd yn ein cymunedau.
Mae ein cyllid cenedlaethol yn cael ei ddosbarthu ar lefel gymunedol leol, sy’n golygu y gallwn geisio cadw’r plant sydd yn ein gofal yng nghymunedau Castell-nedd a Phort Talbot, lle maen nhw wedi cael eu magu. Mae hynny’n golygu eu bod yn nes at eu ffrindiau, eu hysgolion, eu clybiau a’u teuluoedd estynedig, sy’n rhoi’r cyfle gorau posibl iddyn nhw.
Mae deall, gofalu a gwneud yr hyn sydd orau i bob plentyn unigol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.