blog

Stori Merch – Mae fy nheulu yn maethu

Fy enw i yw Sarah. Dw i yma i egluro pam y dylech chi ystyried maethu.

Mae gen i lawer o brofiad uniongyrchol o faethu gan fod fy rhieni wedi bod yn ofalwyr maeth am dros 10 mlynedd. Heddiw byddaf yn trafod plant gofal maeth a’r system gyffredinol ac yn rhoi rhai o’r rhesymau niferus pam y dylech chi ystyried maethu.

Rôl gofalwr maeth yw darparu cartref i blant nad ydynt yn gallu byw gyda’u rhieni a’u teulu biolegol ar hyn o bryd. P’un a ydynt yn aros dros nos neu am sawl blwyddyn

Mae gofalwyr maeth yn rhoi’r cyfle i blentyn cael cartref sefydlog, cariadus a gofalgar. Maent yn gwneud gwahaniaeth difrifol i fywydau plant sy’n derbyn gofal ganddynt, a gallwch chi wneud gwahaniaeth hefyd.

Gallaf sicrhau nad yw’n swydd ailadroddus gan fod cynifer o blant o oedrannau gwahanol a chefndiroedd amrywiol y gallech eu maethu.

Mae pedwar math gwahanol o faethu: tymor hir, nes bydd y plentyn yn ddigon hen i ofalu am ei hunan. Tymor byr: cyfnod o wythnos i 2-3 blwyddyn, maethu mewn argyfwng, pan fydd sefyllfa’n codi lle nad oes modd sicrhau diogelwch plentyn yn y cartref bellach, gallai hyn fod yn drawmatig iawn i’r plentyn. Mae’n bosib y gallant aros yn y lleoliad hwn, neu gall fod yn ateb dros dro nes y gellir dod o hyd i ateb tymor hwy. Yn olaf, mae maethu therapiwtig lle mae plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, neu sydd wedi dioddef yn seicolegol o ganlyniad i’w brofiadau yn ystod ei fywyd cynnar, yn cael ei leoli gyda theulu maeth sy’n addas i’w helpu.

Mae plant sy’n agored i niwed yn byw mewn ofn ac anobaith cyson, ac mae angen eich help arnyn nhw. Ydych chi’n gallu dychmygu pa mor anodd ydyw i dyfu, dysgu a datblygu; bod yn newynnog? Gan ddibynnu ar y sefyllfa gartref, mae plant yn mynd diwrnodau heb fwyd, diod neu anghenion sylfaenol. Ar wahân i’r anghenion, gall y plant hyn hefyd fynd heb gariad, gofal a maeth gan eu rhieni.

Yn y DU, mae 78,000 o blant sydd wedi gorfod mynd i ofal, ac mewn 60% o achosion mae hyn o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod. Gyda rhiant cyfrifol rydych yn ennill nifer o sgiliau bywyd pwysig. Efallai y byddwch yn eu hadnabod fel y canlynol: gweithgarwch corfforol, ennill sgiliau meddwl, ymresymu ac iaith, rhyngweithio cymdeithasol a deall a rheoli’n hemosiynau.

Rwy’n siŵr y gallwch weld pam ei bod yn hanfodol i blant ennill y sgiliau hyn.  Mae maethu plentyn yn golygu eich bod chi’n gallu rhoi sefydlogrwydd academaidd iddo hefyd, rhywbeth na fyddai’r plentyn yn ei gael yn ei gartref blaenorol. Dyma’r peth normal y mae pob plentyn yn ei haeddu. Os ydych chi’n credu eich bod yn unigryw ac yn gallu cynnig safbwynt unigryw ar fywyd, mae maethu’n syniad perffaith i chi! Mae asiantaethau gofal maeth yn mynd ati i ddathlu amrywiaeth, p’un a ydych chi’n sengl, yn briod, mewn partneriaeth sifil, yn berchen ar eich cartref eich hun neu’n rhentu cartref. Rydym yn eich annog yn gryf i faethu plentyn. Nesaf, nid plant yw’r unig rai sy’n elwa o ofal maeth. Nid yw’n swydd 9 tan 5 arferol, ond byddwch yn derbyn iawndal ariannol. Bydd hyn yn eich helpu i ofalu am eich teulu a’r plentyn maeth yn gyfforddus.

Yn ogystal â hyn, bydd cael plentyn yn eich gofal yn caniatáu i chi gael hyfforddiant a datblygiad ac mae’n agor drysau ar gyfer swyddi yn y dyfodol. Mae maethu’n berffaith os ydych chi’n chwilio am leoliad parhaol.

Ar hyn o bryd mae ychydig yn llai na 4000 o deuluoedd maethu yng Nghymru, ond roedd angen dros 8,600 o deuluoedd maeth newydd ar draws y DU yn 2021. Mae Maethu Cymru’n asiantaeth sy’n credu mewn gweithio gyda’n gilydd, rhannu gwybodaeth, ac adeiladu dyfodol gwell ar gyfer plant – gyda’n gilydd.

Nesaf, er bod dros dreian (39%) o oedolion yng Nghymru’n honni eu bod wedi ystyried dod yn ofalwr maeth, mae angen recriwtio tua 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd o hyd ledled Cymru, a hynny bob blwyddyn.  Bydd Gofal Maeth Cymru’n eich cefnogi trwy eich taith gyfan. Yn sicr, rydych chi’n sylweddoli trwy ddarparu amgylchedd diogel, caredigrwydd a chariad, eich bod yn arbed bywydau plant ifanc.


Mae’r hyn rydw i wedi’i drafod heddiw yn rhoi blas yn unig o’r ffyrdd niferus y mae ein cymdeithas a Chymru yn elwa o faethu.  Ystyriwch fywydau’r plant sydd mewn perygl a’r gwahaniaeth y gallech ei wneud iddyn nhw. Gwnewch newid cadarnhaol a dechreuwch faethu heddiw!

Ni yw Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot, rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Ein nod yw creu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned. cysylltu â ni i ddarganfod mwy

Ystadegau a ddarperir gan Y Rhwydwaith Maethu

Story Time

Stories From Our Carers