maethu a mwy

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’n cymuned faethu?

Dyma wasanaeth sy’n cael ei gynnal o fewn Castell-nedd Port Talbot, ble rydyn ni’n chwilio am ofalwyr maeth i gefnogi plant a phobl ifanc i fyw yn eu cymuned o fewn cartrefi maeth.

Fel Gofalwr Maethu a Mwy byddwch chi’n rhan o dîm sy’n cefnogi plentyn / person ifanc, sy’n cynnwys cymorth arbenigol gan ein tîm therapiwtig profiadol.

Fel rhiant corfforaethol mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CnPT) yn gwneud ei orau i sicrhau fod plant sy’n derbyn gofal gan y Cyngor yn cael eu rhoi yn y lleoliad mwyaf addas i’w gefnogi orau, er mwyn iddyn nhw gyflawni’u canlyniadau.

Fel Gofalwr Maeth a Mwy, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi plant i fyw’n lleol, yn ein cymuned, yn agos at deulu, ffrindiau a’r ysgol.

Cysylltu â ni

  • Os ydych chi’n bwriadu gofyn am becyn gwybodaeth, gofyn cwestiwn neu gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth, rydyn ni yma i helpu. Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.

Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot

2il Lawr

Canolfan Ddinesig Castell-nedd

Castell-nedd

Castell-nedd Port Talbot

SA11

Gweld ar fapiau google

 

Llinell Ymchwil Cefnogi

01639 685866

E-bost

[email protected]