mathau o faethu

rhiant a phlentyn

beth yw maethu rhiant a phlentyn?

Gyda’r math hwn o faethu, byddwch yn croesawu rhiant a’u plentyn i’ch cartref.. Rydych yn helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd, ac yn addysgu sgiliau newydd, gan ddarparu clust i wrando a meithrin eu perthynas.

Nod y math arbenigol hwn o faethu yw i chi ofalu am riant sydd wir angen cymorth, fel y gallant ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn.

dad and baby

pwy all gael ei faethu?

Weithiau gelwir maethu rhieni a phlant yn ‘lleoliad maeth mam a babi’ oherwydd, yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen y rhain ar gyfer mamau ifanc sydd ar fin neu newydd roi genedigaeth.

Ond nid yw hyn bob amser yn wir.

Gallai maethu rhiant a phlentyn olygu darparu lle diogel i dad a’i fabi, mam hŷn neu blentyn bach neu weithiau i’r ddau riant gyda’i gilydd, gyda’u plentyn.

what’s expected?

With Local Authority help, you’ll nurture the next generation so they can do the same.

A parent and child foster carer will be expected to:

  • Teach parenting skills like feeding, bathing and bedtime routines
  • Encourage parents to give children positive attention, emotional warmth and play
  • Show parents ways to have a positive bond with their children
  • Model good parenting so parents can learn what their babies need and how to respond effectively
  • Support parents, who may have had a difficult childhood themselves or experienced domestic violence, to build their own self-esteem, confidence and choices
  • Teach household skills like budgeting and preparing meals
  • Provide a safe and nurturing home environment for parents to develop their parenting skills
  • Observe the parent and child’s daily interactions, progress, and keep detailed records for the assessment. Supervise, but no judgement
  • Attend meetings with social workers and other support staff
  • Contribute to decisions made around what happens next
mother and baby

pwy all fod yn ofalwr maeth?

Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae angen rhiant maeth gwahanol arnynt hefyd. Yn Maethu Cymru, rydym yn dathlu amrywiaeth ein gofalwyr maeth.

Fodd bynnag, er mwyn maethu mam a babi, bydd angen i chi fod yn hyderus a bod yn brofiadol gyda phlant ifanc. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fod â phlant biolegol eich hun, ond mae’n rhaid eich bod yn gallu gofalu am fabi ar eich pen eich hun ac addysgu rhywun arall i wneud hynny. Bydd angen i chi fod yn bresennol drwy’r amser.

mother and baby

Fel y rhan fwyaf o faethu, rhaid i chi gael ystafell sbâr gartref. Dylai hyn fod yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer y rhiant a’r plentyn gan gynnwys gwely, cot, a dodrefn arall fel bwrdd newid.

I fod yn ofalwr maeth rhieni a phlentyn gyda Maethu Cymru CnPT, bydd angen y canlynol arnoch :
• Sgiliau TG sylfaenol.
• Sgiliau ysgrifennu da.
• Sgiliau perthnasol a throsglwyddadwy, megis profiad o weithio gyda phlant neu gael eich plant eich hun.
• Mae angen i un aelod o’r aelwyd fod adref a bod ar gael drwy gydol y dydd.
• Amynedd ac anogaeth wrth roi cyngor a thrafod sgiliau magu plant.
• Sgiliau arsylwi a’r parodrwydd i gofnodi sut y mae’r rhiant yn gofalu am ei blentyn.
• Sgiliau pendantrwydd a’r hyder i arwain drwy esiampl.
•Trin rhieni newydd â sensitifrwydd.
mother and baby

pa mor hir mae lleoliadau maeth rhiant a phlentyn yn parhau?

Fel arfer, bydd rhiant a phlentyn yn aros gyda chi am 12 wythnos, tra bod asesiad yn cael ei gwblhau ar eu gallu i fagu plant. Er y gellir ymestyn hyn os oes angen ychydig mwy o amser a chefnogaeth ar y rhiant.

Gall lleoliad maethu mam a babi barhau’n hirach os yw’r fam yn ymuno â chi cyn iddi roi genedigaeth.

Gallai canlyniad llwyddiannus fod i’r rhiant a’r plentyn symud i mewn gyda’r teulu, i fathau eraill o fyw â chymorth, neu fyw’n annibynnol, wedi’u paratoi’n dda ar gyfer eu rôl fel mam neu dad.

mother and baby

a oes lwfansau maethu mam a babi?

Cefnogi rhiant a babi newydd mewn angen yw’r prif reswm pam mae llawer o bobl yn dewis dod yn ofalwr maeth rhiant a phlentyn, ond bydd arian yn eich helpu i ddarparu’r diogelwch a’r arweiniad hwn. Felly, rhoddir lwfans i bob gofalwr am bob person yn eu gofal ochr yn ochr â’u lwfansau maethu a budd-daliadau eraill y gallai’r awdurdod lleol eu cynnig.

cysylltwch

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.