blog

maethu gyda’ch plant eich hun

Bob mis Hydref rydym yn falch o ddathlu plant gofalwyr maeth, ac amlygu’r effaith a’r arwyddocâd maent yn eu cael o fewn eu teulu maethu. Mae’n anrhydedd fawr i Maethu Cymru CNPT hyrwyddo pob plentyn a dangos iddynt faint rydym yn gwerthfawrogi popeth maent yn eu gwneud. Rydym wedi trefnu nifer o weithgareddau ar gyfer y plant ysbrydoledig hyn gan gynnwys trampolinio, bowlio etc., ond nid yw’r hwyl yn dod i ben pan ddaw’r mis i ben. Mae Maethu Cymru CNPT yn cynnal sawl digwyddiad i’r teulu ar draws y rhanbarth drwy gydol y flwyddyn, yn arbennig ar gyfer ein teuluoedd maethu. Rydym yn mwynhau cael sbwylio’r tîm!

rydym yn gwrando ar blant ein gofalwyr

Gallwch ddysgu mwy am faethu pan fo gennych eich plant eich hunain gan blant ein teuluoedd maethu. Rydym wedi gwrando arnynt ac wedi dysgu ganddynt, a byddwch chi yn hefyd.

Mae mab a merch Claire ac Andy, sef Oliver a Tegan, wedi tyfu i fyny yn croesawu plant i mewn i’w teulu, ac roeddent yn hapus i rannu eu profiadau â ni.

maethu gyda phlant geni

Rhieni: Claire ac Andy

Nifer y plant a faethwyd: Deg plentyn ar amrywiaeth o drefniadau tymor byr a seibiant byr.

Oedrannau’r plant maeth: Newydd-anedig i bedair blwydd oed

Plant: Tegan ac Oliver

Cyn i ni glywed gan Tegan ac Oliver, trafododd Claire sut y maen nhw’n paratoi’r plant ar gyfer croesawu plentyn maeth. 

“Rydym wedi bod yn lwcus iawn taw dim ond un plentyn sydd wedi dod atom am brys, felly rydym wedi cael amser i baratoi ein plant ein hunain cyn i’r plant maethu gyrraedd. Rydym yn eistedd gyda nhw ac yn rhoi gwybod iddyn nhw am yr hyn sy’n digwydd, a phryd mae’r baban neu blentyn yn debygol o gyrraedd.   Rydyn ni bob amser yn siarad ac yn sicrhau bod pawb yn hapus a bod y penderfyniad i dderbyn lleoliad yn benderfyniad i’r teulu cyfan, ac nid fy mhenderfyniad i yn unig, er enghraifft.”

yn cyflwyno tegan ac oliver

Beth ydych chi’n ei garu am fod yn rhan o deulu maethu?

Tegan – “Rwy’n dwlu ar faethu babanod; maen nhw mor ciwt a hyfryd. Hefyd, rwy’n mwynhau gwneud iddyn nhw chwerthin a chael plant eraill yn y tŷ i chwarae gyda nhw. Dydy e’ byth yn ddiflas ac rwy’n cael llawer o hwyl gyda nhw.”

Oliver – “Cwrdd â phlant newydd a chware gyda nhw a gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus.”

Beth yw’ch darn o gyngor gorau i blant sy’n croesawu plant i’w cartref?

Tegan – “I fod yn garedig ac yn amyneddgar.”

Oliver – “Byddwch yn neis a pheidiwch â phoeni am rannu’ch pethau, ond cadwch unrhyw beth sy’n arbennig i chi yn eich ystafell.”

sut ydych chi’n paratoi ar gyfer croesawu’ch brodyr a chwiorydd maeth?

Tegan – “Byddwn yn dod o hyd i degan neu dedi i’w roi iddyn nhw pan maen nhw’n cyrraedd, fel eu bod yn teimlo’n gyfforddus a bod croeso iddynt.”

Oliver – “Doeddwn i heb wneud unrhyw beth i baratoi, mam a dad oedd wedi gwneud hynny!”

sut oeddech chi’n teimlo ar ôl i’r plant gyrraedd?

Tegan – “Dwi bob amser yn gyffrous i gwrdd â nhw a gweld pa fath o berson ydyn nhw. Rwyf am iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw, a’u bod nhw eisiau siarad â fi.”

Oliver – “Hapus oherwydd roedden nhw’n hyfryd.”

beth ydych chi’n hoffi gwneud gyda’ch brodyr a chwiorydd maeth?

Tegan – “Rwy’n hoffi chwarae gyda nhw yn yr ardd, ac yn fy nhŷ bach twt hefyd. Rwy’n hoffi mynd i leoedd newydd gyda nhw, lle gallwn archwilio gyda’n gilydd. Pan fydd babanod yn dod atom, rwy’n dwlu ar roi cwtsh iddyn nhw a gwneud iddyn nhw chwerthin.”

Oliver – “Chwarae gyda nhw a bod yn wirion er mwyn gwneud iddyn nhw chwerthin.”

Sut ydych chi’n teimlo pan mae eich brodyr a chwiorydd maeth yn gadael?

Tegan – “Roeddwn i’n teimlo’n drist, ond roedd hefyd yn hyfryd i fod fel teulu o 4 eto am sbel.”

Oliver – “Ychydig yn drist. Roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n eu gweld nhw eto. Roeddwn i’n gwybod y byddai plentyn maeth newydd yn dod hefyd, felly roeddwn i’n hapus am hynny.”

Yn ôl at y fam, Claire – rydyn ni’n gwybod pa mor dda mae ei theulu wedi gofalu am blant, ond roeddem hefyd eisiau gwybod sut gwnaeth hi baratoi Tegan ac Oliver ar gyfer y diwrnod lle bu’n rhaid i’r brodyr a chwiorydd maeth adael.

“Gyda’r babanod, roedd yn fater o sicrhau bod ein plant ein hunain yn gwybod eu bod nhw’n aros gyda ni nes i’r gweithiwr cymdeithasol benderfynu ar y cynllun nesaf.Mae’r holl fabanod oedd wedi’u lleoli gyda ni wedi cael eu mabwysiadu. Yn amlwg, mae’n broses anodd gyda nifer o emosiynau ac mae hyd yn oed yn anoddach i’n plant gan eu bod wedi trin y plant maeth fel eu brodyr a’u chwiorydd eu hunain. Rydyn ni bob amser yn trafod y cynlluniau ar gyfer pryd y bydd y pant yn gadael ein cartref ac yn sicrhau eu bod nhw’n rhan o’r broses. Mae’r rhieni sy’n mabwysiadu bob amser wedi bod mor hyfryd ac ystyriol o’n plant ein hunain hefyd. Maen nhw’n gwybod ei fod yn anodd i ni. Rydym wedi bod yn ffodus iawn ein bod wedi gallu aros mewn cysylltiad â rhai o’r teuluoedd sy’n mabwysiadu, a chael gweld y babanod yn tyfu.”

Ydy teulu Claire wedi eich ysbrydoli i roi cynnig ar faethu gyda’ch plant geni?

maethu pan fo gennych eich plant eich hunain

Ydych chi’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn ystyried maethu gyda’ch plant eich hunain?

Gall gofalu am unrhyw blentyn fod yn wobrwyol, yn llawer o hwyl ac yn heriol ar yr un pryd. Mae cael profiad o sut i ymdopi drwy’r amserau da a heriol gyda’ch plant eich hunain yn amhrisiadwy os ydych chi’n penderfynu maethu. Mae llawer o ofalwyr maeth posib yn pryderu am sut y bydd eu plant eu hunain yn ymdopi ac yn rhyngweithio â brawd neu chwaer maeth. Yn ystod yr asesiad gofalwr maeth, rydym yn gwrando, yn trafod ac yn nodi’ch dewisiadau, yr hyn a fyddai’n gweithio i chi ac unrhyw beth sy’n gwneud i chi deimlo’n nerfus. Rydym yn deall bod anghenion a lles eich plant geni, ochr yn ochr ag anghenion a lles brawd neu chwaer maeth, yn hynod bwysig i chi, a dyna pam y mae Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot yn dod o hyd i blant sy’n addas ar gyfer eich teulu. Mae eich diddordebau chi a diddordebau’r plant maeth yn bwysig. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn ystyried popeth, o’r gweithgareddau rydych chi’n mwynhau eu gwneud fel teulu i’ch ffordd o fyw, ac oedran eich plant. Mae Maethu Cymru’n argymell bwlch mewn oedran; roedd plant Claire yn hŷn na’u brodyr a chwiorydd maeth.

gofynnwch unrhyw gwestiwn i ni am faethu

Rydym yn gwybod eich bod wedi cyrraedd y dudalen hon oherwydd mae gennych ddiddordeb mewn maethu gyda’ch plant eich hunain. Does dim amheuaeth bod gennych nifer o gwestiynau. Rydyn ni’n gwrando – beth hoffech chi ei ofyn? Gall ein tîm hyfforddedig a phrofiadol iawn ateb unrhyw ymholiad. Hoffem glywed gennych. Ffoniwch ni ar 01639 685866 neu cliciwch ar y ddolen os oes well gennych gysylltu drwy e-bost. Ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin wrth i chi aros i glywed gennym.

Cysylltwch â ni  

Os ydych chi’n byw mewn ardal arall o Gymru, rhowch glic ar wefan Maethu Cymru, lle cewch hyd i’r holl wybodaeth angenrheidiol am faethu a manylion cyswllt gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers