sut mae'n gweithio
y broses
y broses
Felly rydych chi’n meddwl mwy am gychwyn ar eich taith tuag at fod yn rhiant maeth.
Ond faint o amser mae’r broses yn ei chymryd yng Nghastell-nedd Port Talbot?
Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl.

y cam cyntaf
Mae’n debyg mai’r cam cyntaf yn eich taith faethu yw’r cam pwysicaf: anfon e-bost aton ni neu godi’r ffôn a rhoi gwybod i ni bod gennych chi ddiddordeb.

yr ymweliad cartref
Ar ôl i chi gysylltu â ni, byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod i’ch adnabod chi drwy ymweld â’ch cartref. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu galwad fideo yn lle hynny.
Ar hyn o bryd, rydyn ni eisiau dod i’ch adnabod chi, eich sefyllfa a chael gwybod mwy am ble rydych chi’n ei alw’n gartref. Mae’n bwysig ein bod ni’n meithrin perthynas â chi.

yr hyfforddiant
Mae cam cyntaf eich hyfforddiant a’ch datblygiad yn dysgu mwy i chi am faethu, er mwyn i chi fod yn siŵr mai dyma’r llwybr iawn i chi. Mae hefyd yn gyfle i chi gwrdd â gofalwyr maeth newydd eraill ar yr un cam o’u taith. Enw’r cwrs hyfforddi cyntaf hwn yw “Paratoi i Faethu”, neu weithiau “sgiliau maethu”. Bydd yn digwydd dros ychydig ddyddiau neu gyda’r nos.
Mae’n ymwneud â datblygu gwybodaeth, cysylltiadau a rhwydweithiau gwerthfawr sy’n para.

yr asesiad
Ar ôl i ni ymweld â chi, byddwn ni’n dechrau asesu. Dydy hwn ddim yn brawf o bell ffordd, dim ond cyfle i’n tîm siarad â’ch ffrindiau a’ch teulu. Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi a’ch teulu ac yn ystyried rhai o’ch cryfderau a’ch gwendidau gyda’n tîm gwaith cymdeithasol.
Pwrpas asesiad yw eich paratoi ar gyfer y daith heriol, ond werth chweil, tuag at faethu.

y panel
Mae’r panel yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol proffesiynol, arbenigwyr cymunedol ac aelodau annibynnol, sy’n brofiadol ac sy’n gwybod llawer am faethu, a dyma’r bobl a fydd yn adolygu eich asesiad.
Mae’n bwysig cofio na fydd y panel yn derbyn neu’n gwrthod eich asesiad, ond yn hytrach yn ei ystyried o safbwynt gwahanol. Bydd aelodau’r panel yn gwneud argymhellion unigol ar sail eich sefyllfa unigryw.

y cytundeb gofal maeth
Ar ôl i’n panel gymeradwyo eich asesiad, byddwch wedyn yn cael cytundeb gofal maeth.
Mae hwn yn gytundeb sydd wedi’i deilwra’n arbennig, a fydd yn nodi beth mae’n ei olygu i chi fod yn ofalwr. Bydd yn cynnwys eich cyfrifoldebau o ddydd i ddydd, y gefnogaeth a’r arweiniad a gewch gennyn ni yn ogystal â’r gwasanaethau sydd ar gael.