faint o amser mae’n ei gymryd i ddod yn ofalwr maeth?
Mae taith pawb yn wahanol. Mae maethu yn benderfyniad i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant yn eich cymuned.
beth alla’ i ei ddisgwyl?
O’n sgwrs gyntaf i gael eich cymeradwyo, gall y broses o ddod yn ofalwr maeth gymryd hyd at 6 mis. Byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd.
Bydd eich asesiad maethu yn dechrau a bydd yn rhedeg ochr yn ochr â hyfforddiant a dysgu ar-lein. Ar ddiwedd y cam dysgu, byddwch yn ennill cymhwyster lefel 2 mewn Maethu Therapiwtig, a fydd yn eich cefnogi i fagu plant mewn modd therapiwtig.
Byddwn yn dod i’ch adnabod chi a’ch teulu. Yn darganfod beth rydych chi’n teimlo’n angerddol yn ei gylch, ac yn bwysicaf oll, pwy ydych chi. Nid dim ond eich cartref chi a’ch cymuned sy’n bwysig i ni. Rydych chi, fel unigolyn, yn bwysig i ni. Rydyn ni’n gweithio i’ch paru chi â phlant maeth a fydd yn ffitio i mewn â’ch teulu a’ch ffordd o fyw. Er mwyn paru yn y ffordd orau – a chreu’r dyfodol gorau posibl – mae angen i ni wybod popeth a allwn ni.